Vocabeiddio’r Rhithfro
Mae’r gwaith o gyflwyno Vocab i’r byd yn mynd rhagddo. Y broblem fwya yw’r amrywiaeth anhygoel o gôd ac arddulliau CSS sydd o gwmpas y lle, sydd wedi bod yn chwarae hafoc efo Vocab hyd yn hyn. Roeddwn i wedi cael MorfaBlog i weithio heddiw, a wedyn dyma fi’n gweld bod Nic yn bwriadau symud i WordPress beth bynnag. Rhaid dechrau eto nawr!
Os oes gennych chi wefan Cymraeg sy’n defnyddio unrhyw driciau CSS clyfar, neu unrhywbeth anghyffredin, wnewch chi bostio’r cyfeiriad yn y sylwadau yma? Gaf i ychwanegu nhw i’r rhestr profi wedyn.
Oherwydd rhesymau cyfreithiol, ac er mwyn nodi cyfraniad ein noddwyr, bydd rhaid ychwanegu bar i waelod pob dudalen sy’n mynd trwy Vocab. Bydd hyn siwr o fod yn defnyddio’r arddull CSS “fixed” — hynny yw, bydd yn weladwy ar ben y dudalen dim ots faint o sgrolio fyny neu lawr wnewch chi. Oes gan rhywun wrthwynebiad mawr i hyn?
February 17th, 20052:35 pm at
Sa i’n credu bod arddull css “fixed” ddim yn gweithio ar Internet Explorer yn iawn - dwi di cael lot o help am pethe fel ’na o gwefan quirksmode - http://www.quirksmode.org - fi’n credu fod fix ar gyfer “fixed” ar hwna
February 27th, 20053:37 pm at
Dim ond nawr dw i’n gweld hyn, sori.
Wyt ti wedi llwyddo gyda’r cynllun newydd ar Morfablog? Ydy hyn yn golygu dw i ddim yn gallu newid fy CSS? Nid mod i’n mynd i, paid poeni. Wel, dim eto, ta beth.
March 27th, 20052:27 pm at
Jyst i roi gwybod, mae diddordeb ar Wicipedia am hyn hefyd.