sleblog

2005-03-03

Cronni’r Rhithfro

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 14:58

Gan bod Nic wedi gorfodi gymaint o bobl i gychwyn blogs y chwyldro blogio Cymraeg yn parhau, mae’n anodd cadw trac arnyn nhw i gyd. Ocei, gallen i ddefnyddio teclyn RSS, ond dwi’n gweithio ar nifer o gyfrifiaduron, ac mae’n hasl setio hwnna i fyny ar bob un. Felly beth am gasglydd newyddion RSS ar y we? Gwych. Dyma’r cynnig cyntaf. Mae braidd yn amrwd — angen tacluso’r HTML o’r ffrydiau, a chreu rhyw fath o ddyluniad — ond mae’n gweithio’n weddol. Beth ych chi’n feddwl? Postiwch sylwadau isod, neu cyfeiriadau blogiau newydd i’w hychwanegu.

Dwi am weithio ar dacluso a gwella’r teclyn yn araf bach — rhan o’r rheswm dros wneud y peth yn y lle cyntaf yw bod hi’n hen bryd i fi ddysgu iaith gyfrifiadurol newydd (un newydd pob dwy flynedd yw’r nod, medde nhw) ac roedd prosiect casglydd RSS yn bodoli’n barod yn Python, sy’n edrych yn iaith ddiddorol iawn.

2005-01-05

S’mai

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 14:35

Helo. Croeso i Sleblog. Dim byd cyffrous yma ar y funud, ond falle fydd na rhywbryd.

Rhyw fath o lyfr nodiadau i fi fy hun fydd hwn, mewn gwirionedd, i gadw trefn ar sdwff diddorol a defnyddiol. Falle fyddan nhw’n ddiddorol neu’n ddefnyddiol i chi hefyd.

Yn bennaf, byddai’n postio diweddariadau yma am brosiectau dwi’n gweithio arnyn nhw, fel Afal Ap, y prosiect i Gymreigio’r Mac.

Pwerir gan WordPress