sleblog

2005-02-28

WordPress 1.5 Cymraeg (bron…)

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 11:43

Mae WordPress 1.5 allan, ac mae’n edrych fel diweddariad gwerth chweil. Nodweddion newydd fel tudalennau (tu allan i strwythur y blog) a themâu (templadau mwy hyblyg).

Rwy wedi gorffen y cyfieithiad Cymraeg newydd, ond mae’r themâu newydd yn achosi problem. Mae un carfan o ddatblygwyr WordPress eisiau i’r themâu gynnwys yr iaith priodol yn y côd (symlach, ond rhaid cyfieithu pob thema i bob iaith) tra bod carfan arall eisiau rhyngwladoli’r prif themâu (fel bod modd defnyddio nhw gyda phob iaith yn syth — ond anoddach i greu themâu newydd). Dwi yn yr ail garfan, ond dwi’n meddwl bod ni’n colli ar hyn o bryd!

Os oes rhywun yn awyddus iawn i symud i WordPress 1.5, nai bostio’r ffeil .mo yma yn y man, gyda chyfarwyddiadau. Nes mlaen, bydd na becyn WordPress Cymraeg gyfan, gyda’r ffeiliau a themâu Cymraeg i gyd gyda’i gilydd.

2005-01-08

WordPress Cymraeg

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 14:43

Ar ôl chwarae efo sawl pecyn blogs, dwi di dewis WordPress ar gyfer y blog yma. Mae’n hawdd iawn i’w osod, yn rhydd ac am ddim, ac mae’n hawdd i’w addasu at eich dibenion eich hun. A dyw e ddim hanner mor blydi lletchwith â MovableType.

Rwy wedi cyfieithu’r holl becyn, felly mae’n hawdd iawn i flogio’n Gymraeg (mae’r rhyngwyneb ar gyfer yr awduron yn Gymraeg i gyd hefyd).

Cer i nôl ffeiliau WordPress, a dilyna’r cyfarwyddiadau arsefydlu syml iawn. Bydd angen PHP a MySQL ar dy weinydd.

Yna rho’r ffeil iaith Gymraeg yn /wp-includes/languages/cy.mo (gan greu’r ffolder languages os oes angen).

Agor y ffeil /wp-config.php nes di greu wrth osod WordPress, a newidia’r llinell define ('WPLANG', ''); i define ('WPLANG', 'cy');

A dyna ni! Os wyt ti eisiau addasu’r Gymraeg, bydd angen y ffeil .po arnat ti hefyd (a defnyddio gettext neu poEdit i greu ffeil .mo newydd).

Gad fi wybod os weli di unrhyw gamgymeriadau iaith!

2005-01-07

‘n glws ‘n’ ‘n Ddrwg

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 17:35

Rhaid bod e’n eitha anodd i ganolbwyntio ar waith cyfieithu mewn siop llawn dildos, yn ôl yr arwydd ar flaen siop rhyw newydd Bangor.

Arwydd siop rhyw

Pwerir gan WordPress