sleblog

2005-03-04

Apple yn cefnogi’r Gymraeg?

Filed under: — slebog @ 11:13

Mae Tiger, y fersiwn nesa o Mac OS X, yn datblygu’n gyflym, ac mae’n edrych fel diweddariad gwerth chweil i bawb efo Mac.

Un peth diddorol iawn yn y fersiynau sydd ar gael i ddatblygwyr yw’r darpariaeth cynyddol ar gyfer y Gymraeg. Roedden ni eisoes wedi llwyddo i Gymreigio darnau helaeth o Panther, yr OS X presennol, ond dim ond gyda sawl hac a thric bach i dwyllo’r OS bod y Gymraeg yn iaith go iawn. Nes i ffeilio ambell i adroddiad ar hyn gydag Apple, ac mae’n edrych yn debyg bod nhw wedi datrys pob un ohonyn nhw — a mynd tu hwnt i hynny i gynnig locale cynhwysfawr i’r Gymraeg.

Allan o’r bocs, mae Tiger yn cynnig y Gymraeg fel iaith. Does dim cyfieithiadau i’r rhyngwyneb eto (ond ry’n ni’n gweithio ar rheina ein hunain) ond mae’r holl ddewisiadau locale wedi’u cyfieithu. Er enghraifft, o ddewis y Gymraeg, bydd y panel dewisiadau Rhyngwladol yn newid yn otomatig i ardal “Prydain Fawr” (ie, “Prydain Fawr” yn Gymraeg, nid “United Kingdom”). Bydd dyddiadau a phethau felly yn ymddangos yn Gymraeg (e.e. yn rhestrau ffeiliau y Finder) yn syth. Ac mae rhaglenni Carbon yn adnabod y Gymraeg hefyd (problem mawr efo Panther) — felly bydd modd cael iTunes yn Gymraeg o’r diwedd!

Mi wnes i yrru cais swyddogol i Apple i gael caniatâd i ddarparu ffeiliau Cymraeg. Ches i fyth ateb, ond mae’n amlwg bod rhywun yn talu sylw. Nid yn unig ydyn nhw wedi trwsio pob problem yn ymwneud â chefnogaeth i’r Gymraeg, mae nhw wedi gwneud gwaith sylweddol ychwanegol i’n helpu ni.

Tybed os oes na siaradwr Cymraeg cefnodol yn gweithio rhywle yn Apple? Mae na rhywun yna yn sicr yn gwybod beth enwau’r dyddiau a misoedd yn Gymraeg.

Diolch i Apple am wneud fy mywyd i’n haws, beth bynnag!

2005-02-28

WordPress 1.5 Cymraeg (bron…)

Filed under: — slebog @ 11:43

Mae WordPress 1.5 allan, ac mae’n edrych fel diweddariad gwerth chweil. Nodweddion newydd fel tudalennau (tu allan i strwythur y blog) a themâu (templadau mwy hyblyg).

Rwy wedi gorffen y cyfieithiad Cymraeg newydd, ond mae’r themâu newydd yn achosi problem. Mae un carfan o ddatblygwyr WordPress eisiau i’r themâu gynnwys yr iaith priodol yn y côd (symlach, ond rhaid cyfieithu pob thema i bob iaith) tra bod carfan arall eisiau rhyngwladoli’r prif themâu (fel bod modd defnyddio nhw gyda phob iaith yn syth — ond anoddach i greu themâu newydd). Dwi yn yr ail garfan, ond dwi’n meddwl bod ni’n colli ar hyn o bryd!

Os oes rhywun yn awyddus iawn i symud i WordPress 1.5, nai bostio’r ffeil .mo yma yn y man, gyda chyfarwyddiadau. Nes mlaen, bydd na becyn WordPress Cymraeg gyfan, gyda’r ffeiliau a themâu Cymraeg i gyd gyda’i gilydd.

2005-02-09

Vocabeiddio’r Rhithfro

Filed under: — slebog @ 21:26

Mae’r gwaith o gyflwyno Vocab i’r byd yn mynd rhagddo. Y broblem fwya yw’r amrywiaeth anhygoel o gôd ac arddulliau CSS sydd o gwmpas y lle, sydd wedi bod yn chwarae hafoc efo Vocab hyd yn hyn. Roeddwn i wedi cael MorfaBlog i weithio heddiw, a wedyn dyma fi’n gweld bod Nic yn bwriadau symud i WordPress beth bynnag. Rhaid dechrau eto nawr! ;-)

Os oes gennych chi wefan Cymraeg sy’n defnyddio unrhyw driciau CSS clyfar, neu unrhywbeth anghyffredin, wnewch chi bostio’r cyfeiriad yn y sylwadau yma? Gaf i ychwanegu nhw i’r rhestr profi wedyn.

Oherwydd rhesymau cyfreithiol, ac er mwyn nodi cyfraniad ein noddwyr, bydd rhaid ychwanegu bar i waelod pob dudalen sy’n mynd trwy Vocab. Bydd hyn siwr o fod yn defnyddio’r arddull CSS “fixed” — hynny yw, bydd yn weladwy ar ben y dudalen dim ots faint o sgrolio fyny neu lawr wnewch chi. Oes gan rhywun wrthwynebiad mawr i hyn?

2005-01-08

WordPress Cymraeg

Filed under: — slebog @ 14:43

Ar ôl chwarae efo sawl pecyn blogs, dwi di dewis WordPress ar gyfer y blog yma. Mae’n hawdd iawn i’w osod, yn rhydd ac am ddim, ac mae’n hawdd i’w addasu at eich dibenion eich hun. A dyw e ddim hanner mor blydi lletchwith â MovableType.

Rwy wedi cyfieithu’r holl becyn, felly mae’n hawdd iawn i flogio’n Gymraeg (mae’r rhyngwyneb ar gyfer yr awduron yn Gymraeg i gyd hefyd).

Cer i nôl ffeiliau WordPress, a dilyna’r cyfarwyddiadau arsefydlu syml iawn. Bydd angen PHP a MySQL ar dy weinydd.

Yna rho’r ffeil iaith Gymraeg yn /wp-includes/languages/cy.mo (gan greu’r ffolder languages os oes angen).

Agor y ffeil /wp-config.php nes di greu wrth osod WordPress, a newidia’r llinell define ('WPLANG', ''); i define ('WPLANG', 'cy');

A dyna ni! Os wyt ti eisiau addasu’r Gymraeg, bydd angen y ffeil .po arnat ti hefyd (a defnyddio gettext neu poEdit i greu ffeil .mo newydd).

Gad fi wybod os weli di unrhyw gamgymeriadau iaith!

Teigr Cymraeg

Filed under: — slebog @ 9:52

Mae fersiwn nesa OS X (Tiger) yn dod allan rhywbryd yn hanner cyntaf 2005, a gobeithio bydd fersiwn Cymraeg llawn ohono ar gael yr un pryd (neu’n fuan wedyn).

Y sefyllfa ar hyn o bryd… wedi ymuno â rhaglen datblygwyr Apple, sy’n golygu bod mynediad ganddo ni at y fersiynau preifat cynnar o’r meddalwedd. Rwy wedi gosod yr holl waith wnaethpwyd ar gyfieithu Panther ar hwnnw, felly mae tipyn o’r gwaith wedi ei wneud yn barod - tua 80% o bob pecyn.

Argraffiadau cyntaf: mae’r holl chwilod rwy wedi adrodd wrth Apple wedi cael eu lladd, sy’n wych. Yn arbennig, nawr mae modd defnyddio dewisiadau’r system i newid iaith i Gymraeg (yn hytrach na theclyn bach arbennig). Dyw rhaglenni Carbon (fel BBEdit a Firefox) ddim yn cael trafferth efo dangos ac chodyddu testun rhagor, chwaith. Yn anffodus, mae chwilen Cymraeg newydd — does dim rheolau torri geiriau ar gyfer y Gymraeg, felly mae negeseuon mewn deialogau yn torri yng nghanol geiriau. Wps. Mae’n effeithio rhai ieithoedd eraill, felly gobeithio na fydd yn bresennol yn y fersiwn gorffenedig.

O ran y cyfieithu, mae lot o nodweddion newydd yn Teigr sydd angen gwaith, fel Spotlight. Mae nifer o raglenni wedi cael llwyth o negeseuon gwall ychwanegol, cliriach, hefyd.

Rhywun efo syniad am enw Cymraeg da ar gyfer Spotlight (y decholeg chwilio)?

Powered by WordPress