sleblog

2005-03-04

Apple yn cefnogi’r Gymraeg?

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 11:13

Mae Tiger, y fersiwn nesa o Mac OS X, yn datblygu’n gyflym, ac mae’n edrych fel diweddariad gwerth chweil i bawb efo Mac.

Un peth diddorol iawn yn y fersiynau sydd ar gael i ddatblygwyr yw’r darpariaeth cynyddol ar gyfer y Gymraeg. Roedden ni eisoes wedi llwyddo i Gymreigio darnau helaeth o Panther, yr OS X presennol, ond dim ond gyda sawl hac a thric bach i dwyllo’r OS bod y Gymraeg yn iaith go iawn. Nes i ffeilio ambell i adroddiad ar hyn gydag Apple, ac mae’n edrych yn debyg bod nhw wedi datrys pob un ohonyn nhw — a mynd tu hwnt i hynny i gynnig locale cynhwysfawr i’r Gymraeg.

Allan o’r bocs, mae Tiger yn cynnig y Gymraeg fel iaith. Does dim cyfieithiadau i’r rhyngwyneb eto (ond ry’n ni’n gweithio ar rheina ein hunain) ond mae’r holl ddewisiadau locale wedi’u cyfieithu. Er enghraifft, o ddewis y Gymraeg, bydd y panel dewisiadau Rhyngwladol yn newid yn otomatig i ardal “Prydain Fawr” (ie, “Prydain Fawr” yn Gymraeg, nid “United Kingdom”). Bydd dyddiadau a phethau felly yn ymddangos yn Gymraeg (e.e. yn rhestrau ffeiliau y Finder) yn syth. Ac mae rhaglenni Carbon yn adnabod y Gymraeg hefyd (problem mawr efo Panther) — felly bydd modd cael iTunes yn Gymraeg o’r diwedd!

Mi wnes i yrru cais swyddogol i Apple i gael caniatâd i ddarparu ffeiliau Cymraeg. Ches i fyth ateb, ond mae’n amlwg bod rhywun yn talu sylw. Nid yn unig ydyn nhw wedi trwsio pob problem yn ymwneud â chefnogaeth i’r Gymraeg, mae nhw wedi gwneud gwaith sylweddol ychwanegol i’n helpu ni.

Tybed os oes na siaradwr Cymraeg cefnodol yn gweithio rhywle yn Apple? Mae na rhywun yna yn sicr yn gwybod beth enwau’r dyddiau a misoedd yn Gymraeg.

Diolch i Apple am wneud fy mywyd i’n haws, beth bynnag!

2005-01-08

Teigr Cymraeg

Ffeiliwyd o dan: — slebog @ 9:52

Mae fersiwn nesa OS X (Tiger) yn dod allan rhywbryd yn hanner cyntaf 2005, a gobeithio bydd fersiwn Cymraeg llawn ohono ar gael yr un pryd (neu’n fuan wedyn).

Y sefyllfa ar hyn o bryd… wedi ymuno â rhaglen datblygwyr Apple, sy’n golygu bod mynediad ganddo ni at y fersiynau preifat cynnar o’r meddalwedd. Rwy wedi gosod yr holl waith wnaethpwyd ar gyfieithu Panther ar hwnnw, felly mae tipyn o’r gwaith wedi ei wneud yn barod - tua 80% o bob pecyn.

Argraffiadau cyntaf: mae’r holl chwilod rwy wedi adrodd wrth Apple wedi cael eu lladd, sy’n wych. Yn arbennig, nawr mae modd defnyddio dewisiadau’r system i newid iaith i Gymraeg (yn hytrach na theclyn bach arbennig). Dyw rhaglenni Carbon (fel BBEdit a Firefox) ddim yn cael trafferth efo dangos ac chodyddu testun rhagor, chwaith. Yn anffodus, mae chwilen Cymraeg newydd — does dim rheolau torri geiriau ar gyfer y Gymraeg, felly mae negeseuon mewn deialogau yn torri yng nghanol geiriau. Wps. Mae’n effeithio rhai ieithoedd eraill, felly gobeithio na fydd yn bresennol yn y fersiwn gorffenedig.

O ran y cyfieithu, mae lot o nodweddion newydd yn Teigr sydd angen gwaith, fel Spotlight. Mae nifer o raglenni wedi cael llwyth o negeseuon gwall ychwanegol, cliriach, hefyd.

Rhywun efo syniad am enw Cymraeg da ar gyfer Spotlight (y decholeg chwilio)?

Pwerir gan WordPress