Ehangu Vocab
Mae cwpl o bobl wedi bod yn holi a fyddai modd defnyddio Vocab ar flogiau Cymraeg (mae Vocab yn declyn i rhoi cymorth ar iaith — neu unrhywbeth dweud y gwir — sy ar safle BBC Cymru’r Byd).
Yr ateb ydi: bydd, mi fydd yn bosib, ond ddim cweit eto. Mae na ‘chydig o broblemau technegol (dyw’r peiriant lle mae Vocab yn byw ddim yn gallu gweld gweddill y Rhyngrwyd ar y funud — dim ond safle’r BBC) a phroblemau golygyddol/cyfreithiol (mae Vocab yn creu URLau fel http://www.bbc.co.uk/cgi-perl/vocab/show.pl/cy-en/www.lluniau-poeth-xxx.com/ i arddangos safle — a fydd pobl yn sylweddoli nad y BBC sy’n gyfrifol am www.lluniau-poeth-xxx.com, er mai bbc.co.uk sydd ar ddechrau’r URL?)
Erbyn y gwanwyn bydd rhywbeth gyda ni, gobeithio.
Yn y cyfamser, plîs postia yn y sylwadau os oes syniadau gen ti ar sut i wella Vocab… y rhyngwyneb, y geirfa, unrhywbeth…
