WordPress Cymraeg
Ar ôl chwarae efo sawl pecyn blogs, dwi di dewis WordPress ar gyfer y blog yma. Mae’n hawdd iawn i’w osod, yn rhydd ac am ddim, ac mae’n hawdd i’w addasu at eich dibenion eich hun. A dyw e ddim hanner mor blydi lletchwith â MovableType.
Rwy wedi cyfieithu’r holl becyn, felly mae’n hawdd iawn i flogio’n Gymraeg (mae’r rhyngwyneb ar gyfer yr awduron yn Gymraeg i gyd hefyd).
Cer i nôl ffeiliau WordPress, a dilyna’r cyfarwyddiadau arsefydlu syml iawn. Bydd angen PHP a MySQL ar dy weinydd.
Yna rho’r ffeil iaith Gymraeg yn /wp-includes/languages/cy.mo (gan greu’r ffolder languages os oes angen).
Agor y ffeil /wp-config.php nes di greu wrth osod WordPress, a newidia’r llinell define ('WPLANG', ''); i define ('WPLANG', 'cy');
A dyna ni! Os wyt ti eisiau addasu’r Gymraeg, bydd angen y ffeil .po arnat ti hefyd (a defnyddio gettext neu poEdit i greu ffeil .mo newydd).
Gad fi wybod os weli di unrhyw gamgymeriadau iaith!
11 Ionawr 200516:30 am
Nawr dw i’n gweld hyn, ar ôl i mi bostio yn sylwadau y cofnod arall. Ti wedi neud y gwaith i gyd! Amser i mi feddwl o ddifri am symud morfablog ‘te. Dw i wedi cael llond bol o MT. Mae’n mynd yn fwyfwy araf wrth i’r archif dyfu, ac mae’n hen bryd i mi gael springclean go iawn ar y hen flog ta beth.
Sut mae sefyllfa sbamio sylwadau, neu ydy hi’n rhy gynnar i ddweud?
11 Ionawr 200516:43 am
Mae modd rheoli sbam ar sail nifer y dolenni yn y neges, neu blaclist o eiriau drwg, ond mae sawl ategyn o gwmpas y lle i gael reolaeth uwch. Ond heb gael unrhyw drafferth hyd yma!
Gyda llaw, yn rhan o’r pecyn mae na declyn i fewnforio cofnodion o flog MovableType, felly dylai fod yn weddol hawdd i newid.
11 Ionawr 200516:43 am
Sleblogiwr o fri
Blog newydd i’r ‘fro: sleblog. Gan mod i ddim yn siwr pa enw mae blogiwr yma yn defnyddio ar ei…
11 Ionawr 200516:47 am
Trackback yn gweithio yn iawn ‘te
11 Ionawr 200516:49 am
Gwenogluniau! Wyt ti’n ein sbwylio ni!
11 Ionawr 200517:05 am
[…] Waw
Ffeiliwyd o dan: Tech Cymraeg — bryn_s @ 6:05 pm
Gwych Mae Seblog.net wedi cyfieithu Wordpress i’r Cymraeg! Whee. (Seblog.net has translated Wo […]
11 Ionawr 200517:32 am
Mae’n ddrwg gen i am yr trackback dwethaf, wedi cyffroi’n ormod mae’n amlwg.
Diolch am gwneud y gwaith cyfieithu, rwyf wedi ei osod ar fy mlog i nawr. Wyt ti wedi gyrru’r ffeil .MO i’r pobl daru ysgrifennu Wordpress?
Diolch,
Bryn
11 Ionawr 200517:47 am
Rwy wedi postio dolen i’r .MO ar wici WordPress — dwi ddim yn gwybod os oes lle swyddogol i bostio nhw, dweud y gwir.
Gyda llaw, falle sylwch chi ar eiriau Saesneg yn ymddangos yma ac acw (fel “Comment gan…” ar y ddalen hon) — problem yng nghôd WordPress yw hwnna, nid efo’r cyfieithiad. Mae’n drysu efo’r calendr hefyd gan bod y Saesneg yn defnyddio’r un llythyren dwywaith.
Dwi wrthi’n cywiro hyn wrth i fi weld nhw. Pan fydda’i wedi gorffen, dwi’n gobeithio postio pecyn cyfan, yn cynnwys WordPress wedi cywiro, a’r ffeil Cymraeg, fel bod cychwyn blog Cymraeg yn hawdd.
11 Ionawr 200521:56 am
Difyr iawn, dwi wedi bod yn meddwl symud o blogger ers sbelan ‘fyd - angan sbring clin. Ella fod gen i ddiddordeb defnyddio Word Press.
Mae gan ffrind i mi le ar ei weinydd, PHP a MySQL…felly..ella ddoi nol atat ti am arweiniad ar sut i neud os di hynna’n iawn?
13 Ionawr 200517:02 am
Diolch i chi am Wordpress yn Gymraeg
9 Chwefror 200515:10 am
[…] diwedd, dw i wedi gosod WP ar y gweinydd, a chael pethau i weithio. Diolch yn fawr iawn i Iwan am ddarparu’r fersiwn Gymraeg:” mae’n brofiad newydd i fi gael dysgu […]
9 Chwefror 200515:11 am
[…] diwedd, dw i wedi gosod WP ar y gweinydd, a chael pethau i weithio. Diolch yn fawr iawn i Iwan am ddarparu’r fersiwn Gymraeg:” mae’n brofiad newydd i fi gael dysgu […]
9 Chwefror 200516:19 am
Un o’r pethau cyntaf i mi ddysgu yw sut i ddefnyddio’r blwch tic “PingNodi URIau yn y cofnod hwn”.
Sori Iwan.
5 Awst 200516:27 am
Wedi bod yn chwarae gyda’r cod ers rhai dyddie - a damo, nawr y’f fi’n ffindo’r cyfieithiadau parod.
Wnai bostio cyfeiriad safle pan fydd un gyda fi’n gweithio’n iawn…
6 Awst 200518:14 am
Wedi’i greu yn defnyddio’r ffeil .mo ac ychydig o waith cyfieithu oedd yn y cynllun ei hun. Rhywun chwant cystadlu?