Cronni’r Rhithfro
Gan bod Nic wedi gorfodi gymaint o bobl i gychwyn blogs y chwyldro blogio Cymraeg yn parhau, mae’n anodd cadw trac arnyn nhw i gyd. Ocei, gallen i ddefnyddio teclyn RSS, ond dwi’n gweithio ar nifer o gyfrifiaduron, ac mae’n hasl setio hwnna i fyny ar bob un. Felly beth am gasglydd newyddion RSS ar y we? Gwych. Dyma’r cynnig cyntaf. Mae braidd yn amrwd — angen tacluso’r HTML o’r ffrydiau, a chreu rhyw fath o ddyluniad — ond mae’n gweithio’n weddol. Beth ych chi’n feddwl? Postiwch sylwadau isod, neu cyfeiriadau blogiau newydd i’w hychwanegu.
Dwi am weithio ar dacluso a gwella’r teclyn yn araf bach — rhan o’r rheswm dros wneud y peth yn y lle cyntaf yw bod hi’n hen bryd i fi ddysgu iaith gyfrifiadurol newydd (un newydd pob dwy flynedd yw’r nod, medde nhw) ac roedd prosiect casglydd RSS yn bodoli’n barod yn Python, sy’n edrych yn iaith ddiddorol iawn.
March 8th, 200512:59 pm at
dwi di bod yn gweithio ar rhywbeth tebyg ar gyfer rhithfro.com, ond eu wneud fel ei fod yn ypdetio mond unwaith y diwrnod, er mwyn peidio rhoi mwy o faich ar y server a rhoi gwasanaeth gwell - nes i drial fy fersiwn i gyda tua 150 blog (yn edrych am ypdet bob tro, fel dy un di, os ydw in gywir) a odd e di cymeryd tua munud i llwytho’r tudalen. O wel - gewn i weld os allai neud e, a wedyn y bwriad yw i greu rhyw fath o ‘hub’ i’r rhithfro - i bobl ddechrau blog ac i bobl saesneg gael gwybodaeth am y rhwydwaith o flogiau. (dyna’r gobaith ta beth)
March 8th, 20051:45 pm at
Mae’n edrych yn dda, gaiff fy mlog ei ychwanegu?
Gwenu Dan Fysiau: http://www.gwenudanfysiau.blogspot.com
a dyma rai eraill:
Dysgu: http://morfablog.com/dysgu/
Castell Tywod: http://castell-tywod.blogspot.com/
The Ramblings of a Mad Dilettante: http://www.livejournal.com/users/jcortese/
Geiriau: http://geiriau.blogspot.com/
Clecs Cilgwrli: http://cleciaucilgwri.blogspot.com/
Gwawr Niwclear: http://www.nuclear-dawn.com/
Hefyd mae macsen wedi llunio rhestr manwl sy’n cynnwys rhai eraill hefyd:
http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=10551&postdays=0&postorder=asc&start=0
March 8th, 20053:12 pm at
Gwych, aled, great minds ayyb, mae’n amlwg! Dwi’n cytuno bod e’n anymarferol (ac annheg ar weinyddion y blogwyr) i ddiweddaru “yn fyw” wrth agor y dudalen. Beth rwy’n gwneud yw rhedeg sgript o cron pob awr sy’n chwilio am eitemau newydd yn y ffrydiau, ac yna adeiladu ffeil html statig yn y ffolder cywir ar y gweinydd. Does dim byd deinamig yn rhedeg wrth lwytho’r dudalen. Be wyt ti wedi bod yn defnyddio ar gyfer rhithfro.com?
March 9th, 20053:27 pm at
dwi’n defnyddio JScript, a beth on i’n trial neud odd ei ddiweddaru unwaith y dydd pan mae rhywyn yn ymweld a’r safwe. (JScript ar ASP, mae’n debyg i JavaScript nadi fe, a Java, a mae rhedeg java ar gweinydd yn gostus ty hwnt)
April 5th, 20059:52 pm at
Newydd sylwi ar hyn - bfiliant! Oes modd ychwanegu fy mlog arall Y Rheng Flaen at y rhestr?
Diolch yn dalpe.
April 19th, 200512:37 pm at
September 24th, 20058:24 pm at
Dylen ni fod yn siarad yn fwy aml oddi fewn i’r Grwp Llywio!
Dw i wedi bod yn chwarae o gwmpas heddiw a ddoe gydag http://www.blogiadur.com - mae’n ymddangos bod rhai syniadau jesd yn cyrraedd pwynt lle maen nhw’n cael eu geni ym mhob man! (ym, neu, er, rhai misoedd ar wahan i’w gilydd…;-))
Ga i roi ffrwd Slebog i mewn i’r Blogiadur?