WordPress
Mae WordPress yn blatfform cyhoeddi personol gyda phwyslais ar ymddangosiad, safonau gwe, a defnyddioldeb. Mae hefyd ar gael am ddim, yn rydd, ac yn Gymraeg.
Os wyt ti eisiau blogio yn Gymraeg, heb drafferth, dyma’r pecyn i ti.
Dyma ychydig o sgrîn-luniau (Saesneg).
Anghenion
Dyma beth sydd angen i arsefydlu WordPress:
- Gweinydd gwe gyda PHP a MySQL
- Mynediad i’r gweinydd trwy gragen neu FTP
- Golygydd testun
- Cleient FTP i gopïo’r ffeiliau i’r gweinydd
- Porydd gwe o dy ddewis di
Arsefydlu
Dyma fersiwn cyflym o’r cyfarwyddiadau. Am ragor o fanylion, edrcyha ar y cyfarwyddiadau Saesneg.
- Lawrlwytha’r pecyn WordPress (wordpress-cy-1.5.2.zip neu wordpress-cy-1.5.2.tar.gz), a’i dad-sipio.
- Creu cronfa-ddata ar gyfer WordPress ar dy weinydd, gyda defnyddiwr MySQL sydd â’r holl hawliau darllen ac addasu ar ei chyfer.
- Newid enw’r ffeil
wp-config-sample.phpiwp-config.php. - Agor y ffeil
wp-config.phpyn dy olygydd testun a rho fanylion dy gronfa-ddata i fewn. - Rho’r ffeiliau WordPress ar dy weinydd. Gelli di newid enw’r ffolder i beth bynnag wyt ti eisiau (e.e. “blog” os wyt ti eisiau cyfeiriad tebyg i
http://enghraifft.com/blog/) neu copio’r holl ffeiliau o’r ffolder i wraidd dy weinydd. - Rheda’r sgript arsefydlu trwy fynd at
wp-admin/install.phpyn dy borydd gwe.- Os wnest ti rhoi’r ffeiliau WordPress yng ngwraidd dy safle, cer at:
http://enghraifft.com/wp-admin/install.php - Os wnest ti rhoi’r ffeiliau WordPress mewn is-ffolder o’r enw
blog, er enghraifft, cer at:http://example.com/blog/wp-admin/install.php
- Os wnest ti rhoi’r ffeiliau WordPress yng ngwraidd dy safle, cer at:
- Dyna ni! Dylai WordPress fod yn weithredol ar dy safle nawr.
Ategyn HunanGywiro
Mae’r pecyn Cymraeg yn cynnwys ategyn arbennig i reoli sut mae testun yn cael ei fformatio. Bydd hyn o help gyda nifer o eiriau Cymraeg sy’n dechrau gyda chollnod, fel ’sdim. Heb yr ategyn yma, bydd y collnod ar ddechrau’r gair yn troi’r ffordd anghywir. I ddefnyddio’r ategyn HunanGywiro, cer at y safle gweinyddu i dy flog ar ôl arsefydlu, a:
- Clicia ar y botwm Ategynnau
- Clicia ar y botwm Galluogi wrth ochr yr ategyn AutoCorrect
- Clicia ar Dewisiadau ac yna HuanGywiro i newid dewisiadau’r ategyn, ac ychwanegu geiriau newydd.
Diweddaru WordPress
Os wyt ti eisioes yn defnyddio fersiwn blaenorol o WordPress, mae cyfarwyddiadau ychwanegol i gael (Saesneg).
Os wyt ti’n defnyddio WordPress yn barod, ac eisiau ychwanegu’r rhyngwyneb Cymraeg, mae’r ffeiliau .mo a .po ar gael ar gael fan hyn.
Cymorth
Mae llawer o erthyglau sy’n esbonio holl agweddau defnyddio a datblygu WordPress ar Codex WordPress. Mae na fforwm gymorth WordPress hefyd.
Gelli di gysylltu â fi trwy’r blog hwn os oes unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y pecyn Cymraeg neu’r cyfieithiadau.