sleblog

2005-09-24

WordPress

Filed under: — slebog @ 11:26

Mae WordPress yn blatfform cyhoeddi personol gyda phwyslais ar ymddangosiad, safonau gwe, a defnyddioldeb. Mae hefyd ar gael am ddim, yn rydd, ac yn Gymraeg.

Os wyt ti eisiau blogio yn Gymraeg, heb drafferth, dyma’r pecyn i ti.

Dyma ychydig o sgrîn-luniau (Saesneg).


Anghenion

Dyma beth sydd angen i arsefydlu WordPress:

  • Gweinydd gwe gyda PHP a MySQL
  • Mynediad i’r gweinydd trwy gragen neu FTP
  • Golygydd testun
  • Cleient FTP i gopïo’r ffeiliau i’r gweinydd
  • Porydd gwe o dy ddewis di

Arsefydlu

Dyma fersiwn cyflym o’r cyfarwyddiadau. Am ragor o fanylion, edrcyha ar y cyfarwyddiadau Saesneg.

  1. Lawrlwytha’r pecyn WordPress (wordpress-cy-1.5.2.zip neu wordpress-cy-1.5.2.tar.gz), a’i dad-sipio.
  2. Creu cronfa-ddata ar gyfer WordPress ar dy weinydd, gyda defnyddiwr MySQL sydd â’r holl hawliau darllen ac addasu ar ei chyfer.
  3. Newid enw’r ffeil wp-config-sample.php i wp-config.php.
  4. Agor y ffeil wp-config.php yn dy olygydd testun a rho fanylion dy gronfa-ddata i fewn.
  5. Rho’r ffeiliau WordPress ar dy weinydd. Gelli di newid enw’r ffolder i beth bynnag wyt ti eisiau (e.e. “blog” os wyt ti eisiau cyfeiriad tebyg i http://enghraifft.com/blog/) neu copio’r holl ffeiliau o’r ffolder i wraidd dy weinydd.
  6. Rheda’r sgript arsefydlu trwy fynd at wp-admin/install.php yn dy borydd gwe.
    • Os wnest ti rhoi’r ffeiliau WordPress yng ngwraidd dy safle, cer at: http://enghraifft.com/wp-admin/install.php
    • Os wnest ti rhoi’r ffeiliau WordPress mewn is-ffolder o’r enw blog, er enghraifft, cer at: http://example.com/blog/wp-admin/install.php
  7. Dyna ni! Dylai WordPress fod yn weithredol ar dy safle nawr.

Ategyn HunanGywiro

Mae’r pecyn Cymraeg yn cynnwys ategyn arbennig i reoli sut mae testun yn cael ei fformatio. Bydd hyn o help gyda nifer o eiriau Cymraeg sy’n dechrau gyda chollnod, fel ’sdim. Heb yr ategyn yma, bydd y collnod ar ddechrau’r gair yn troi’r ffordd anghywir. I ddefnyddio’r ategyn HunanGywiro, cer at y safle gweinyddu i dy flog ar ôl arsefydlu, a:

  1. Clicia ar y botwm Ategynnau
  2. Clicia ar y botwm Galluogi wrth ochr yr ategyn AutoCorrect
  3. Clicia ar Dewisiadau ac yna HuanGywiro i newid dewisiadau’r ategyn, ac ychwanegu geiriau newydd.

Diweddaru WordPress

Os wyt ti eisioes yn defnyddio fersiwn blaenorol o WordPress, mae cyfarwyddiadau ychwanegol i gael (Saesneg).
Os wyt ti’n defnyddio WordPress yn barod, ac eisiau ychwanegu’r rhyngwyneb Cymraeg, mae’r ffeiliau .mo a .po ar gael ar gael fan hyn.


Cymorth

Mae llawer o erthyglau sy’n esbonio holl agweddau defnyddio a datblygu WordPress ar Codex WordPress. Mae na fforwm gymorth WordPress hefyd.
Gelli di gysylltu â fi trwy’r blog hwn os oes unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y pecyn Cymraeg neu’r cyfieithiadau.


Leave a Reply

Powered by WordPress